Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 5 Rhagfyr 2024
Amser:
09.30 -
15.16
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14199
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS (yn lle Hannah Blythyn AS) Luke Fletcher AS Samuel Kurtz AS Jenny Rathbone AS |
|
Tystion: |
Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Matt Buckley, United Tech and Allied Workers (UTAW-CWU) Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru Matt Davies, Ada Lovelace Institute Professor Lina Dencik, Goldsmiths, Prifysgol Llundain Dr Richard Irvine, Llywodraeth Cymru Felix Milbank, Federation of Small Businesses (FSB) Yr Athro Alun Preece, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Rossi Setchi, Prifysgol Caerdydd Klaire Tanner, CreuTech Paul Teather, AMPLYFI Ceri Williams, TUC Cymru |
|
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Nicole Haylor-Mott (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) Madelaine Phillips (Ymchwilydd) Lucy Morgan (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hannah Blythyn AS. Roedd Alun Davies AS yn dirprwyo ar gyfer eitemau 6 i 8.
1.3 Mynychodd Luke Fletcher AS eitemau 1 i 4 ac anfonodd ymddiheuriadau am weddill y cyfarfod.
2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Matt Davies (Sefydliad Ada Lovelace), yr Athro Rossi Setchi (Prifysgol Caerdydd), a’r Athro Alun Preece (Hwb Caerdydd Canolfan Hartree, Prifysgol Caerdydd).
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Paul Teather (AMPLYFI), Klaire Tanner (CreuTech), a Felix Milbank (Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru).
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Lina Dencik (Prifysgol Goldsmiths Llundain), Matt Buckley, (United Tech and Allied Workers, CWU), a Ceri Williams (TUC Cymru).
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
6.2 Cytunodd y Dirprwy Brif Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth benodol i’r Pwyllgor ynghylch gweithredu’r Dull Rheoli Maetholion Gwell.
7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 3 i 6.
9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft mewn egwyddor.
9.2 Nododd y Pwyllgor ei fod yn aros am ymateb i'w lythyr (a nodir yn Eitem 2.1), a chytunodd i ystyried diweddariadau pellach a chwblhau'r adroddiad drwy ohebiaeth.
10.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y Flaenraglen Waith ar gyfer tymor y gwanwyn 2025, a chytunwyd ar y meysydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor fwrw ymlaen â hwy.
10.2 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu a chytunodd ar gylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad newydd i Lwybrau Prentisiaeth.